Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (28)v2 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4844 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad anferth holl aelodau’r Lluoedd Arfog Cymreig; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod yn ffurfiol canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn 2014;
b) gwneud popeth posibl i roi sylw i anghenion ein lluoedd arfog a chyn-filwyr gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma, gan gydnabod y bydd hyn yn golygu ymgysylltu’n uniongyrchol â nhw; ac
c) datblygu a gweithredu Cerdyn penodol ar gyfer y Lluoedd Arfog.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 2a):
drwy, ymysg pethau eraill, archwilio’r posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Heddwch yng Nghymru.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt c, dileu “datblygu a gweithredu” ac yn ei le rhoi “ystyried gweithredu”
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2 c), dileu ‘datblygu a gweithredu’ ac yn ei le rhoi ‘ystyried dewisiadau ar gyfer ymgynghori ynghylch’
|
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4845 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud economi wledig Cymru yn fwy cystadleuol drwy wneud gwelliannau mewn seilwaith;
b) diogelu dyfodol Cymru wledig drwy helpu busnesau gwledig i gynyddu nifer y swyddi a chynorthwyo pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig; ac
c) ymrwymo i adolygu’r holl reoliadau a’r fiwrocratiaeth sy’n effeithio ar yr economi wledig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 1b):
, ymwrthod ag ymdrechion i ddiwygio’r PAC mewn unrhyw ffordd a fydd yn tanseilio’r economi wledig.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘Yn gresynu bod cymorth penodol yn cael ei dynnu oddi wrth ffermwyr mewn Ardaloedd Llai Ffafriol dan y cynllun Glastir, a fydd yn cael effaith andwyol ar yr economi wledig.’
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘Yn croesawu’r £56.9 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddyrannu i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, a fydd yn help mawr i’r economi wledig.’
|
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4846 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:
a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;
b) delio â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac
c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, yn cynnwys dwyn prosiectau cyfalaf ymlaen er mwyn rhoi hwb i’r sector adeiladu ac i greu swyddi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘fethiant’, rhoi ‘presennol, a blaenorol,’
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘presennol,’ a rhoi yn ei le chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu ac i greu swyddi yn y sector preifat.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru."
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn croesawu’r ffaith efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi ariannu drwy gynyddrannau treth i helpu adfywio economaidd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion pendant cyn gynted ag sy’n ymarferol.”
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd Ardaloedd Menter i economi Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer eu cyflwyno. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM4843 Leanne Wood (Canol De Cymru):
Banciau bwyd – ceginau cawl yr oes fodern?
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2011